Dydd Sul, 17 Chwefror 2019
Yn ogystal â chynnig arweiniad ym Maes Iechyd Cyhoeddus i drawsdoriad eang o unigolion a sefydliadau, y mae Tim Iechyd Cyhoeddus Gogledd Cymru yn cydweithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldr a gydag awdurdodau lleol. Er mwyn targedu yr amgylchiadau sydd yn arwain at ymddygiadau negyddol o ran iechyd megis ysmygu a diffyg gweithgaredd corfforol, y mae’r tîm yn canolbwyntio eu hymdrechion ar ymyriadau ataliol yn gynharach.
Yn bennaf y mae’r tîm yn cefnogi gwaith o gwmpas:
- Atal salwch
- Ymyrraeth gynnar
- Hybu iechyd a lles o enedigaeth trwy lwybr bywyd ac yn ystod y blynyddoedd hŷn
Mae Gogledd Cymru’n cwmpasu oddeutu 2,500 milltir sgwâr ac yn cynnwys chwe sir: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rhwydweithio Cymdeithasol